O! Pa bryd cāf wel'd dy wyneb,
Oll yn heddwch, oll yn ras,
Heb un pechod yn fy nghlwyfo,
Nac yn dirgel gario'r maes;
Heb fod rhyngof len a'r bywyd,
Nac un ysbryd marw syth,
Heb un waedd yn fy nghydwybod,
Ond tangnefedd pur dilith.
Bryd cāf wel'd y tir dymunol,
Hyfryd baradwysaidd wlad,
Lle mae brodyr i mi filiwn,
Lle mae 'Mhriod lle mae Nhad;
Lle cāf orphwys o fy llafur,
Lle cāf wella'm dwfn friw,
A chael gwledd trag'wyddol gysson,
Fry yn nghwmni'm
Tad a'm Duw.
William Williams 1717-91
Tōn [8787D]: Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74) gwelir: Bryd ca'i wel'd y tir dymunol Bryd fy Nhad caf yfed dyfroedd? Capten mawr ein hiechydwriaeth Ofer i mi wel'd y ddaear |
O when may I see thy face,
All in peace, all in grace?
Without any sin wounding me,
Nor secretly carrying the field;
Without there being a curtain
between me and the life,
Nor any stiff, dead spirit,
Without any shout in my conscience,
But pure, unfailing tranquility.
When may I see the desirable land,
The delightful land of paradise,
Where there are a million brothers to me,
Where my Spouse is, where my Father is;
Where I may rest from my labour,
Where I may heal my deep wound,
And get a constant, eternal feast,
Up in the company of my
Father and my God.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|